|
|||||||
![]() ![]() |
|||||||
Rwyf yn aelod o Blaid Cymru ers 1994 a bues i’n weithredol yn Llundain, Casnewydd ac ym Mynwy, gan sefyll yn etholaeth Mynwy yn etholiad San Steffan ym Mehefin 2005 ac yn etholiadau y Cynulliad Cenedlaethol ym Mai 2007. Bues i’n cynorthwyo gyda threfniant a chydgysylltu rhanbarthol drwy’r De-ddwyrain. Bues i’n dal nifer o swyddi gan gynnwys swydd Is-lywydd Rhanbarthol y Blaid rhwng (1999 – 2001). Yn ychwanegol at fod yn weithredol mewn nifer o ymgyrchoedd gwleidyddol ac anwleidyddol drwy’r de, yr wyf yn aelod o Gyfeillion y Ddaear, Sefydliad Materion Cymreig, Cymdeithas Cyfrifiadurol Prydeinig, Cyngor dros Archaeoleg Prydain Cymru ac Cymdeithas er hyrwyddo Astudiaethau Rhufeinaidd. bues i’n gweithredu fel stiward a chadeirydd cangen Undeb Unsain yn ogystal a bod yn aelod cyffredin. Yn wleidyddol, mae gennyf ddiddordeb yn y broblem gynyddol diffyg tai fforddiadwy, cyfraith a threfn, cardiau adnabod, trafnidiaeth cyhoeddus, economi Cymru a’r rhyfel yn erbyn terfysgaeth a’r bygythiadau i hawliau sifil sy’n dod yn ei sgil. Materion eraill sy’n mynd a’m pryd yw’r datblygiadau ym maes datganoli o fewn gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd. Hefyd, datblygiad democratiaeth ynghanol a dwyrain Ewrop a’r cyn Undeb Sofietaidd. I ymlacio, rwyf yn mwnyhau ysgrifennu a theithio dros y tir, yn enwedig cerdded anghysbell ac ar fynyddoedd. Hyd yn hyn, rydw i wedi teithio i weriniaethau gogledd Caucasia yn Ne Rwsia, Wsbecistan, Tajicistan, Chyrgeisistan yn nghanolbarth Asia, ffin gogledd ddwyrain Pacistan a thalaith Xinjiang yng Ngorllewin Pell China yn ogystal â De’r Affrig. Yn y blynyddoedd diweddaraf rwyf wedi cerdded ar Picos de Europa, yn Ynys yr Iâ, Gwlad Pwyl a Slofacia. Yr wyf yn gefnogwr ers cyfnod hirfaith i dimau lleol: Clwb Pêl Droed Casnewydd, Dreigiau Gwent a Chlwb Rygbi Casnewydd. Dros y misoedd nesaf byddaf yn ymdrechu i gwrdd â thrigolion Mynwy cymaint ag y bo modd ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at glywed eich diddordebau a phryderon. Gyda’n gilydd gallem roi cychwyn newydd ar fywyd gwleidyddol ym Mynwy. Gallwch gysylltu â fi drwy e-bost: eplaid@plaid4monmouth.org |
|||||||
|
Am
fwy o wybodaeth am Blaid
edrychwch ar ein gwefan: http://www.plaidcymru.org |
|||||||
|
Cyhoeddwyd a hybwyd gan Jonathan T Clark, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru - The Party of Wales i Etholaeth Mynwy Cyhoeddwyd gan Huw Evans, Llanelen, Y Fenni, Sir Fynwy Cynhaliwyd gan 1&
1 Internet Ltd, The Nova Building, Herschel Street, Slough, SL1 1XS, www.oneandone.co.uk
nad ydynt yn gyfrifol am gynnwys y safle. |
|||||||